Mae warant wedi’i gyhoeddi i arestio Jacob Zuma, cyn-arlywydd De Affrica, ar ôl iddo fethu â mynd i’r llys i wynebu cyhuddiadau.

Roedd disgwyl iddo fynd gerbron Uchel Lys Pietermaritzburg i wynebu cyhuddiadau o lygredd, gwyngalchu arian a thwyll.

Ond mae’n honni ei fod e’n sâl, gydag adroddiadau ei fod e wedi teithio i Giwba am driniaeth.

Fe geisiodd e apelio yn erbyn dyfarniad llys y llynedd.

Mae wedi’i gyhuddo o dderbyn taliadau llwgr gan wneuthurwr arfau Ffrengig drwy law ei gyn-ymgynghorydd ariannol Schabir Shaik, a gafwyd yn euog o dwyll a llygredd yn 2005.

Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau, gan ddweud bod ei achos wedi’i beryglu gan oedi cyn dod â’r mater i’r llys, ac mae’n honni bod ymyrraeth wleidyddol yn yr achos.

Fe gamodd o’r neilltu yn 2018 yn sgil pwysau gan blaid yr ANC.