Mae llywodraeth newydd Sri Lanca wedi gwrthod canu’r anthem genedlaethol yn yr iaith Tamil yn ystod dathliadau annibyniaeth y wlad.
Fe ddaw ar ôl i’r llywodraeth flaenorol roi pwyslais mawr ar ganu’r anthem yn y ddwy iaith er mwyn trwsio’r berthynas rhwng dwy garfan o bobol yn dilyn rhyfel cartref sydd wedi para degawdau.
Cafodd yr Arlywydd Gotabaya Rajapaksa ei ethol y llynedd, gyda’r mwyafrif o bobol o dras Sinhalese yn ei gefnogi a’r mwyafrif o bobol Tamil yn ei wrthwynebu.
Roedd e’n flaenllaw yn yr ymdrechion i guro’r Tamil Tigers yn ystod y rhyfel cartref, ac fe gafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu lladd yn ystod brwydrau, a nifer fawr yn mynd ar goll.
Mae’n 72 o flynyddoedd ers i Sri Lanca ddod yn wlad annibynnol.
Yr anthem
Yn ystod araith fel rhan o’r dathliadau, dywedodd yr arlywydd ei fod e’n cynrychioli pob rhan o’r gymdeithas.
Ond fe wfftiodd e alwadau i ganu’r anthem Tamil yn ystod y dathliadau.
Cafodd yr anthem ei chanu yn y ddwy iaith mewn nifer o ddathliadau eraill o amgylch y wlad.