Mae Daniel arap Moi, cyn-arlywydd Cenia, wedi marw’n 95 oed.

Cafodd ei farwolaeth ei chyhoeddi gan yr Arlywydd Uhuru Kenyatta mewn datganiad yn y cyfryngau fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 4).

Fe fu yn yr ysbyty ers dros fis.

Er iddo gael ei ystyried yn unben gan feirniaid, roedd ganddo gryn gefnogaeth yn y wlad, gan aros mewn grym am 24 o flynyddoedd ar ôl cael ei ethol yn 1978 yn dilyn marwolaeth Jomo Kenyatta.

Ond nid pawb oedd yn awyddus iddo ddod i rym bryd hynny, gydag ymdrechion i newid y cyfansoddiad i’w atal.

Fe fu’n rhaid iddo ffoi o’i gartref pan glywodd am farwolaeth ei ragflaenydd, gan ddychwelyd yn ddiweddarach ar ôl cael sicrwydd na fyddai ei fywyd yntau mewn perygl.

Unbennaeth

Yn 1982, pasiodd y llywodraeth ddeddfwriaeth er mwyn gwneud Cenia yn wlad un blaid, i bob pwrpas.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, fe wnaeth y fyddin atal cynllwyn gan wrthwynebwyr a swyddogion y lluoedd arfog, gyda 159 o bobol yn cael eu lladd.

Fe arweiniodd hynny at ddulliau mwy llawdrwm o ymdrin â gwrthwynebwyr, gan gynnwys eu cadw yn y ddalfa a’u harteithio a rhai hyd yn oed yn cael eu lladd.

Roedd llygredd yn frith yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, meddai adroddiad ar y pryd.

Yn 1991, fe fu’n rhaid iddo ildio a chyflwyno system aml-bleidiol ond roedd cryn drais yn ystod etholiadau yn 1992 a 1997.

Roedd cyflwr yr economi’n fregus erbyn i’r arlywydd adael ei swydd yn 2002.