Mae’r dirgelwch yn parhau am ddamwain awyren yn ardal fynyddig talaith Ghazin yn Affganistan, ardal sy’n cael ei rheoli’n rhannol gan y Taliban.
Yn wreiddiol roedd adroddiadau’n awgrymu mai un o awyrennau cwmni hedfan Ariana oedd wedi mynd ar goll, ond dywedodd Mirwais Mirzakwal, prif weithredwr y cwmni mewn datganiad: “Nid awyren Ariana oedd hon gan fod y ddau hediad heddiw o Herat i Kabul a Herat i Delhi yn glanio’n ddiogel.”
Mae’n debyg bod degau o awyrennau milwrol yn hedfan dros yr ardal yn ddyddiol.
Yn ol y Taliban, awyren milwrol yr Unol Daleithiau oedd wedi taro’r ddaear ond nid yw’r Unol Daleithiau wedi ymateb i’r honiadau.
Nid yw’n glir eto faint o bobl oedd ar fwrdd yr awyren, na beth yn union achosodd y ddamwain yn nwyrain Afghanistan prynhawn dydd Llun (Ionawr 27).