“Cellwair jihadaidd” oedd canmoliaeth brawychwr o ymosodiad ar swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo yn Paris.

Clywodd Llys y Goron Woolwich fod Mohiussunath Chowdhury o Luton wedi cael ei recordio gan blismyn cudd yn dweud bod yr ymosodiad ym mis Ionawr 2015 yn “epic” a “hyfryd”.

Bu farw 12 o bobol, gan gynnwys plismon, yn y digwyddiad.

Ac mae’r llys hefyd wedi clywed ei fod e wedi disgrifio llofruddiaeth y milwr Lee Rigby yn Llundain yn 2013 yn “hollol ryfeddol”.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y dyn 28 oed ei fod e’n “gyfarwydd â siarad fel hyn” yn y carchar, ond mae’n mynnu nad yw’n casáu pobol nad ydyn nhw’n dilyn y ffydd Islamaidd.

Dadleuon yr erlynwyr

Mae erlynwyr yn dadlau ei fod e wedi cynllwynio i ladd aelodau o’r cyhoedd mewn nifer o leoliadau prysur y llynedd, a’i fod e wedi datgelu’r wybodaeth wrth blismyn cudd.

Cafwyd e’n ddieuog o drosedd frawychol yn yr Old Bailey ar ôl ymosod ar yr heddlu â chleddyf y tu allan i Balas Buckingham fis Awst 2017.

Mae’n dweud fod y “ffaith eu bod nhw wedi sefyll i fyny ac ymosod” yn Paris yn golygu bod yr ymosodiad yn “brydferth”.

“Cawson nhw rybudd i beidio â darlunio’r Proffwyd Muhammad,” meddai.

“Ro’n i’n teimlo mai cellwair jihadaidd oedd e.”

Cafodd ei sylwadau am Lee Rigby eu darllen yn y llys hefyd.

“Erbyn hyn, do’n i ddim yn siŵr ai’r heddlu neu jihadwyr go iawn oedden nhw,” meddai.

“Ro’n i’n eu hofni nhw’n fawr iawn ac ro’n i’n teimlo bod rhaid i fi gyd-fynd â nhw.”

Cafodd ei holi hefyd am sgwrs arall lle’r oedd e’n crybwyll dienyddio.

“Mae hyn yn dod o fy niddordeb mewn crefftau ymladd a gemau fideo,” meddai.

“Fel y gallwch chi weld, mae ganddi nifer o dechnegau dienyddio,” meddai wrth i’r llys weld enghraifft o gêm gyfrifiadur.

“Dyna ro’n i’n siarad amdano gyda fy chwaer.”

Mae’n gwadu paratoi ar gyfer troseddau brawychol, casglu gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i rywun wrth gyflawni trosedd frawychol, a dosbarthu cyhoeddiadau brawychol.

Mae ei chwaer, Sneha Chowdhury, 25, yn gwadu dau gyhuddiad o fethu â rhoi gwybodaeth am weithredoedd brawychol.