Mae Leo Varadkar, Taoiseach neu brif weinidog Iwerddon, yn rhybuddio nad yw trafodaethau Brexit yn gystadleuaeth lle mae un ochr yn ennill a’r llall yn colli.
Ar ôl cyfarfod â Michel Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, yn Nulyn mae’n dweud y gallai’r ddwy ochr yn hawdd iawn gydweithio er mwyn taro bargen sydd o fudd i bawb.
Mae hefyd yn dweud y bydd lle am byth i’r Deyrnas Unedig wrth fwrdd yr Undeb Ewropeaidd pe na bai Brexit yn llwyddo yn y pen draw.
Daw sylwadau Leo Varadkar wrth iddo amddiffyn ei sylwadau blaenorol, lle gwnaeth e gymharu’r trafodaethau â gêm bêl-droed a dweud mai gan yr Undeb Ewropeaidd fyddai’r “tîm cryfaf”.
“Dw i ddim yn meddwl fod rhaid i ni ei hystyried yn gystadleuaeth,” meddai.
“Mae yna bosibilrwydd y gallen ni gydweithio â’r Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf a sefydlu perthynas a chytundeb masnach yn y dyfodol sydd o fudd i’r ddwy ochr, a dyna’r ysbryd fydd gyda ni wrth ddechrau ar y trafodaethau hyn.”
Barn yr Undeb Ewropeaidd
Yn ôl Michel Barnier, fe fydd holl aelodau’r Undeb Ewropeaidd yn derbyn mandad drafft fis nesaf ar drothwy Uwchgynhadledd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, lle bydd safbwynt terfynol y gwledydd sy’n aelodau’n cael ei gymeradwyo.
Mae’n dweud y bydd mynediad y Deyrnas Unedig i’r farchnad sengl yn ddibynnol ar ei hymrwymiad i gydymffurfio â rheoliadau Ewropeaidd.
“Mae’n bryd cynnal yr ail rownd,” meddai.
“Mae’r cyfnod hwn yn un byr iawn, does dim amser i’w golli mewn unrhyw wleidyddiaeth.
“Dw i bob amser wedi cydweithio’n barchus â phawb yn y Deyrnas Unedig a bydda i’n parhau [i wneud hynny].”
‘Safbwynt Iwerddon yn gryfach na’r Deyrnas Unedig’
Yn ôl Leo Varadkar, mae Iwerddon mewn sefyllfa gryfach na’r Deyrnas Unedig yn y trafodaethau.
“Mae’r Undeb Ewropeaidd yn undeb o 27 o wladwriaethau sy’n aelodau,” meddai wrth y BBC.
“Un wlad yn unig yw’r Deyrnas Unedig.
“Ac mae gyda ni boblogaeth a marchnad o 450 miliwn o bobol. Yn y Deyrnas Unedig, mae e oddeutu 60 miliwn.
“Felly pe baen nhw’n ddau dîm yn chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd, pwy ydych chi’n credu fyddai â’r tîm cryfaf?”