Mae disgwyl i wlad Groeg gael dynes yn arlywydd am y tro cyntaf erioed, wrth i Katerina Sakellaropoulou gael ei hethol.

Mae enwebiad y llywodraeth yn debygol o gael cefnogaeth dwy blaid arall er mwyn i’r barnwr 63 oed gael olynu Prokopis Pavlopoulos.

Bu’n llywydd Cyngor y Wladwriaeth, un o brif lysoedd y wlad, ers 15 mis.

Mae angen 200 o bleidleisiau allan o 300 arni er mwyn dod yn arlywydd, a’r disgwyl yw y bydd hi’n ennill y rheiny yn gyfforddus.

Dim ond un fenyw sydd ag un o 18 o brif swyddi Cabinet y llywodraeth 

Bydd yr arlywydd newydd yn y swydd am gyfnod o bum mlynedd.