Mae Llywodraeth Prydain yn dweud na fydd rhagor o ffracio yng ngwledydd Prydain “am y tro”, yn sgil pryderon fod y broses yn gallu achosi daeargrynfeydd.

Cafodd y weithred ei dirwyn i ben dros dro ym mis Tachwedd yn dilyn ymchwil gan yr Awdurdod Olew a Nwy.

Fis Awst y llynedd, arweiniodd ffracio gan gwmni Cuadrilla at ddaeargrynfedd yn mesur 2.9 ar raddfa Richter yn Swydd Gaerhirfryn.

Mae Alexander Stafford, aelod seneddol Ceidwadol yn Swydd Efrog, yn galw am ddirwyn y weithred i ben yn barhaol.

Wrth ymateb, dywedodd Kwasi Kwarteng, y Gweinidog Busnes, y byddai angen “tystiolaeth gadarn” cyn y byddai ffracio yn cael digwydd eto.

Beth yw ffracio?

Ffracio yw’r broses o bwmpio hylif yn ddwfn i mewn i’r ddaear ar wasgedd uchel er mwyn torri cerrig siâl a rhyddhau nwy neu olew oddi mewn i’r cerrig.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn feirniadol o’r broses gan ddweud ei bod yn arwain at dwf diwydiant tanwydd ffosil newydd wrth i Lywodraeth Prydain geisio lleihau allyriadau.

Yn yr Unol Daleithiau, mae ffracio yn arwain at ostwng prisiau olew a nwy a llai o fewnforion o dramor.

Ond mae peryglon fod ansawdd dŵr yn gostwng o ganlyniad i’r broses.