Mae arbenigwyr ffrwydron wedi llwyddo i ddiffodd bom Americanaidd byw o’r Ail Ryfel Byd yn ninas Cologne yng Ngorllewin yr Almaen.

Cafodd y bom ei ddarganfod nos Lun (Ionawr 20) gen afon y Rhine yng nghanol o ddinas.

Roedd yn rhaid i stesion deledu y tŷ opera gael eu gwagio cyn dechrau’r broses o ddiffodd y bom.

A bu’n rhaid i’r awdurdodau stopio traffig yn Cologne wrth arwain at oedi mewn gwasanaethau tren ar hyd yr Almaen.

Bron i 75 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, mae bomiau yn cael eu darganfod yn aml yn yr Almaen.