Mae sawl person wedi cael eu harestio n Iran am saethu awyren deithwyr Wcrainaidd i lawr gyda thaflegryn.
Dywed y llefarydd Gholamhossein Esmaili fod ymchwiliadau mewn i’r digwyddiad yn parhau.
Tra bod Arlywydd Hassan Rouhani wedi dweud y bydd yr ymchwiliadau yn cael eu goruchwylio gan “lys arbennig.”
Cafodd yr awyren ei saethu lawr ar ôl gadael Tehran ddydd Mercher (Ioanwr 8), gan ladd 176 o bobl.
Roedd y teithwyr ar fwrdd yr awyren yn cynnwys pobl o Iran, Canada, yr Wcráin, gwledydd Prydain, Afghanistan a Sweden.