Mae aelod o griw oedd yn gwerthu cyffuriau ym Mhowys wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar.
Plediodd Ryan Jolly yn euog i gyhuddiad o ddosbarthu cyffuriau dosbarth A.
Mae 19 aelod o’r criw bellach wedi eu dedfrydu ar ôl dosbarthu gwerth £1.1 miliwn o gocên a heroin ym Mhowys.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Jolly wedi teithio i Bowys o Lerpwl bedair gwaith er mwyn dosbarthu cyffuriau.
Dywedodd y Barnwr Geraint Walters: “Mae’r cyhoedd wedi cael llond bol gyda’r math yma o weithgaredd sy’n bla ar eu cymunedau, ac fe fydd y llysoedd yn gwneud eu rhan wrth gefnogi’r heddlu drwy ddedfrydu mewn modd ataliol.”