Mae maes awyr Manila ynghau ac mae degau o filoedd o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi ar ôl i losgfynydd ffrwydro yn y Ffilipinas.
Mae stêm, lludw a cherrig wedi cael eu taflu hyd at naw milltir i’r awyr, sy’n golygu bod lefel y perygl i’r cyhoedd wedi codi’n sylweddol, gyda rhybudd y gallai ffrwydrad arall ddigwydd “o fewn oriau”.
Lefel pump yw’r uchaf a’r mwyaf dinistriol.
Does dim adroddiadau ar hyn o bryd fod unrhyw un wedi cael ei anafu.
Mae teithiau i mewn ac allan o faes awyr Manila wedi’u canslo am y tro, ac mae’r awdurdodau’n ystyried dargyfeirio nifer o deithiau eraill sydd ar y gweill yn y dyfodol agos.