Mae dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer etholiad Iwerddon, ond mae’r Taoiseach Leo Varadkar yn dweud bod protocol yn ei atal rhag datgelu’r dyddiad ar hyn o bryd.

Fe fydd yn rhoi gwybod i’w gydweithwyr yn y cabinet a’r gwrthbleidiau yn y Dail (senedd Iwerddon) cyn datgelu’r dyddiad.

Ar hyn o bryd, y dyfalu yw y gallai’r etholiad gael ei gynnal fis nesaf.

“Dw i wedi gwneud penderfyniad,” meddai, gan ddweud bod rhaid “parchu” protocol.

Bydd y Dail yn cyfarfod ddydd Mercher (Ionawr 15), ac mae llywodraeth Leo Varadkar yn wynebu colli pleidlais o hyder yn y Gweinidog Iechyd Simon Harris.

Ond fe allai’r etholiad ei achub cyn bod modd trefnu’r bleidlais honno, wrth i Leo Varadkar ddweud bod “amgylchiadau wedi newid”.

Beirniadaeth

Mae llywodraeth Leo Varadkar dan y lach ers tro am y ffordd mae wedi ymdrin â chartrefi a gofal iechyd.

Ac mae pwysau ar y glymblaid rhwng Fine Gael a Fianna Fail, sydd yn cynnal y llywodraeth ers 2016, yn sgil ffrae treuliau ac arferion pleidleisio yn y Dail.

Fis diwethaf, enillodd y llywodraeth bleidlais o hyder yn Eoghan Murphy, y Gweinidog Tai, o drwch blewyn.

Ond dydy’r llywodraeth ddim mor ffyddiog am ganlyniad y bleidlais yn erbyn Simon Harris.