Mae’r ymgyrch i godi ‘Yma O Hyd’ i frig y siartiau cerddoriaeth Prydeinig yn “cael y maen i’r wal” wrth frwydro dros annibyniaeth i Gymru, yn ôl Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.

Mae’r glasur gan Dafydd Iwan, a gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1983, wedi codi i frig sawl siart ar ôl i bobol fynd ati i’w lawrlwytho yn dilyn ymgyrch gan y mudiad annibyniaeth.

Mae hi wedi curo nifer o artistiaid amlwg gan gynnwys Lewis Capaldi a Stormzy i frig siartiau lawrlwytho iTunes ac Amazon ac mae’r ymgyrch yn parhau i fagu coesau.

“Mae’n wych, yn bach o hwyl, ond hefyd mae’r neges yn un bwysig,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Mae’n rhoi hyder i gefnogwyr y Gymraeg i ddangos fod yr iaith yn normal, ac mae hefyd yn dangos bod pobol, wrth weithio gyda’i gilydd, yn gallu cael y maen i’r wal.

“Roedd hi’n dipyn o ymgyrch i gael ‘Yma O Hyd’ i mewn i’r Top 10 ac mae e wedi digwydd.”

Roedd yr ymgyrch wedi’i hysbrydoli gan ymgyrch debyg yn Iwerddon i gael un o ganeuon y Wolfe Tones i’r brig yn y wlad honno.

“Mae [Come Out Ye] Black and Tans wedi mynd dros Brydain i gyd a nawr, mae gyda ni ‘Yma O Hyd’,” meddai Siôn Jobbins wedyn.

“Dw i’n falch iawn fod Yes Cymru wedi bod yn hyrwyddo hyn ac yn cefnogi’r ymgyrch.”

Curo sawl cân a chanwr adnabyddus

Wrth i Dafydd Iwan gael ei ddyrchafu uwchlaw nifer o artistiaid amlycaf siartiau Prydain, mae Siôn Jobbins yn dweud ei fod yn gyfle i gael cydnabyddiaeth i’r canwr ac ymgyrchydd gwleidyddol am ei ddegawdau o waith dros y Gymraeg.

“Fi jyst yn dychmygu wynebau lot o bobol ar draws Prydain yn trio gweithio ma’s, yn gynta’, sut i ddweud ‘Yma O Hyd’ a wedyn pwy yw’r Dafydd Iwan ’ma!” meddai, â’i dafod yn ei foch.

“Mae’n hwb i bobol ac o ran Yes Cymru, mae’n dda cael bach o sbri a theimlad da.

“Mae’n gân dda iawn hefyd, ac mae’n wych fod Dafydd yn cael cydnabyddiaeth am yr holl waith mae e wedi’i gyfansoddi dros y degawdau.”

Denu cynulleidfa newydd

Mae rhai bellach yn dyfalu y gallai’r ymgyrch arwain at geisio dyrchafu nifer o ganeuon Cymraeg eraill i’r siartiau Prydeinig, gyda rhai yn gweld cyfle i hyrwyddo’r sîn gyfoes.

“Byddai’n dda gweld,” meddai Siôn Jobbins.

“Roedd Rhys Mwyn yn awgrymu pam ddim cael rhywbeth mwy cyfoes.

“Ond rhan o’r ymgyrch oedd y llwyddiant i gael cân Wyddelig i mewn, a chael cân wleidyddol i mewn oedd holl bwrpas hyn.

“Mae hi hefyd yn gân mae pobol ddi-Gymraeg yn gyfarwydd â hi, y rhai sy’n cefnogi Llanelli neu beth bynnag.”

Pwysigrwydd cerddoriaeth i’r mudiad annibyniaeth

Yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch, mae rhai yn gweld y potensial hefyd i dynnu sylw at gân newydd gan Dewi Pws sy’n dathlu mudiad Yes Cymru.

“Falle yn y dyfodol byddai modd cael cân arall, hynny yw mae ’na gân newydd i Yes Cymru gan Dewi Pws sy’n boblogaidd,” meddai Siôn Jobbins.

“Ond mae’n dangos bod modd gwneud hyn a gyda Dydd Miwsig Cymru ar y gorwel, mae’n rhywbeth i’w ystyried ar gyfer hynny, a dewis cân fwy cyfredol yn Gymraeg ar gyfer hwnnw.

“Ni’n dweud yn aml am wledydd y Baltic ddiwedd yr 80au a’r 90au am y ‘Chwyldro Canu’, a dw i’n credu bod canu a cherddoriaeth Gymraeg yn chwarae rhan bwysig, ac yn ffordd o ddod â phobol at ei gilydd.

“Mae gyda ni draddodiad o ganu gwleidyddol yn y Gymraeg ac mae hwnna’n datblygu yn Saesneg nawr.

“A hefyd, mae’n rhywbeth sy’n tynnu pobol mewn i wleidyddiaeth sydd ddim wedi ystyried gwneud o’r blaen.

“Roedd criwiau o Yes Cymru wedi mynd lan i Glasgow ddoe ar gyfer y rali fawr dros annibyniaeth. Rhannon ni lifft efo criw o bobol oedd yn canu ‘Calon Lân’ sydd ddim yn gân wleidyddol, wrth gwrs.

“Ond mae sawl person wedi ail-drydar ac mae’n dangos bod pobol yn cynhesu at gerddoriaeth. Mae cerddoriaeth, boed yn wleidyddol neu ddim, yn Gymraeg yn ffordd bwysig o ddod â phobol at ei gilydd ac mae’n rhan o’n hunaniaeth ni hefyd.

“Mewn ffordd, canu i ni yw’r Haka i Seland Newydd neu’r bagpipes i’r Alban, mae’n rhan o’n hunaniaeth fel cenedl.”