Mae ymchwilwyr yn Iran wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am awyren a blymiodd o’r awyr wrth deithio o Tehran i’r Wcráin.
Yn ôl yr ymchwilwyr daeth dim galwad am help oddi wrth ei chriw, ac roedden nhw wrthi’n ceisio dychwelyd i’r maes awyr pan gwympodd yr awyren o’r awyr.
Mae adroddiad yr ymchwiliad hefyd yn nodi ei bod ar dân cyn taro’r ddaear, a bod awdurdodau wedi cael gafael ar ei bocs du – y teclyn sydd â recordiadau o sgyrsiau’r peilotiaid.
Bu farw pob un o’r 176 person a oedd ar fwrdd yr awyren pan blymiodd o’r awyr ddoe, ac roedd tri pherson o wledydd Prydain yn eu plith.
Daw hyn oll wrth i densiynau gynyddu rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran, a hynny yn sgil llofruddiaeth y Cadfridog Qasem Soleimani.