Bu farw’r cyn-athro gwyddoniaeth, a chyn-golofnydd Golwg a’r Cymro, Arthur Morgan Thomas. Roedd yn 72 oed.
Yn enedigol o Ddyffryn Conwy, roedd yn byw yn nhref Porthmadog ers degawdau, ac yn gyn-athro yn Ysgol Eifionydd yn y dref. Ers ymddeol oddi yno, roedd yn mwynhau teithio Ewrop a Sgandinafia.
Er mai fel “mab Richie Thomas”, y tenor o Gwm Penmachno, y byddai’n cael ei adnabod gan genhedlaeth ei dad, fe ddilynodd Arthur Thomas ei gwys ei hun fel Cymro – yn un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Nantconwy, yn ymgyrchydd iaith, yn gynganeddwr ac yn fardd, yn ogystal ag fel dyn diwylliedig a gwybodus oedd ddim yn hoff o fodoli y tu mewn i’r bocs.
Mae cyn-ddisgyblion wedi bod yn talu teyrnged iddo yn eu rhesi ar wefan gymdeithasol Facebook, gan ddisgrifio ‘Affyr Tom’ a ‘Cuddly Jo’ fel athro oedd yn “un ohonom ni”, yn “lejand” ac yn hwyl i fod yn ei wersi.
Roedd ganddo yn ei gartref ym Mhorthmadog, ei ‘Ogof Arthur’ ei hun, lle byddai’n gwahodd cyfeillion draw i gymdeithasu a thrafod hyd berfeddion nos, ac roedd yn sgut am fragu ei gwrw ei hun. Wrth deithio’r cyfandir, fe fyddai ef a’i wraig, Olwen, yn gwneud hynny yn eu motor-hom eu hunain ac wrth eu boddau’n cyfarfod â phobol leol.
Yn ei golofnau yn y wasg brint, doedd Arthur Thomas ddim yn swil o ddweud ei ddweud. Roedd ei draed yn sownd iawn ar y ddaear wrth feirniadu gwleidyddion gwrth-Gymraeg; fe fyddai’n tynnu oddi ar ei deithio cyson i rannu gweledigaeth cenhedloedd lleiafrifol eraill; ac fe fyddai’n mentro hefyd i feirniadu corau meibion am geisio (a methu yn aml iawn) â chanu caneuon pop.
Fe fyddai Arthur Thomas hefyd yn ymwelydd cyson â rasus beiciau modur y TT yn Ynys Manaw, ac roedd yn un o sylfaenwyr rali i goffau’r motorbeiciwr, Robin Jac, o Lanuwchllyn. Mae ei unig ferch, Elen Hydref, yn delynores broffesiynol.