Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i ffigwr amlwg a gwethgar ym myd y celfyddydau a gwleidyddiaeth yng Nghymru, yn dilyn marwolaeth Sybil Crouch.
Mae’n cael ei chofio fel “ymgyrchydd angerddol” a rhywun oedd yn credu mewn “cyfiawnder cymdeithasol”.
Roedd Sybil Crouch yn cynrychioli warf y Castell yn Abertawe, ac roedd yn bennaeth ar Ganolfan Celf Taliesin.
Ond cyn hynny, fe fu’n gadeirydd Cyngor Celfyfdydau Cymru – y wraig gyntaf i fod yn y swydd.
Dywed arweinydd Cyngor Abertawe Rob Stewart: “Roeddwn yn hynod drist i glywed am farwolaeth Sybil Crouch.
“Er iddi fod yn sâl am sawl mis, wynebodd ei salwch gyda dewder a pharhaodd i weithio dros ei chymuned.”