Mae’r Cymro Taron Egerton wedi ennill gwobr am yr actor gorau mewn comedi/sioe gerdd yn y Golden Globes am ei rôl yn y ffilm Rocketman – ffilm am fywyd Elton John.

Roedd Taron Egerton ymysg actorion eraill o wledydd Prydain megis, Phoebe Waller-Bridge ac Olivia Colman, a gafodd eu hanrhydeddu yn y gwobrau yn Los Angeles nos Sul (Ionawr 5).

“Mae’r rôl yma wedi newid fy mywyd, hwn yw profiad gorau fy mywyd, mae wedi bod yn anhygoel,” meddai Taron Egerton wedi iddo dderbyn ei wobr.

Aeth ymlaen i ddiolch i Elton John: “Diolch am y gerddoriaeth, am fyw bywyd anghyffredin a diolch am fod yn ffrind i mi.”