Mae’r canwr Rod Stewart wedi’i gyhuddo gan yr heddlu yn Fflorida yn dilyn ffrwgwd mewn gwesty.

Mae wedi’i gyhuddo o daro swyddog diogelwch ar Nos Calan ar ôl iddo fe ac eraill geisio cael mynediad i barti preifat mewn ardal arbennig i blant yn Breakers Palm Beach Hotel.

Mae’r criw wedi’u cyhuddo gan dystion o godi stwr ac o wrthod dilyn cyfarwyddiadau i adael yr ystafell, ac mae ei fab Sean wedi’i gyhuddo o fynd “wyneb yn wyneb” â’r swyddog diogelwch cyn ei wthio.

Camodd Rod Stewart i mewn wedyn a tharo’r swyddog yn ei asennau, ac mae’n honni iddo geisio sicrhau mynediad i’r plant i’r ystafell cyn i’r ffrae ddechrau.

Yn ôl adroddiad yr heddlu, fe wnaeth e ymddiheuro am ei ymddygiad.

Fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal ar Chwefror 5 i benderfynu pryd y bydd rhaid iddo fynd gerbron llys i wynebu’r cyhuddiadau.