Mae tri o bobol o wledydd Prydain ymhlith 170 o bobol sydd wedi cael eu lladd ar ôl i awyren o’r Wcráin daro’r ddaear yn fuan ar ôl gadael maes awyr Tehran yn Iran.

Cafodd pawb ar yr awyren eu lladd yn fuan ar ôl iddi adael maes awyr Imam Khomeini yn y brifddinas.

Mae ymchwilwyr ar y safle, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae timau achub yn ceisio dod o hyd i’r holl gyrff ar hyn o bryd.

Gadawodd yr awyren Boeing 737-800 ar gyfer taith wedi’i threfnu gan gwmni awyr o’r Wcráin fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 8), ond fe roddodd y gorau i ddanfon data bron ar unwaith.

Dydy’r cwmni awyr ddim wedi ymateb i’r digwyddiad hyd yn hyn, oriau’n unig ar ôl i Iran danio taflegrau at Irac wrth ddial am ladd Qassem Soleimani, un o uwch swyddogion y lluoedd arfog.