Mae’r Blaid Lafur yn clywed heddiw (dydd Mercher, Ionawr 8) gan y rhai sydd yn y ras i fod yn ddirprwy arweinydd newydd y blaid yn lle Tom Watson.

Daw areithiau’r chwech oriau’n unig ar ôl i’r ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth amlinellu eu hymgyrchoedd, yn dilyn y newyddion fod Jeremy Corbyn am gamu o’r neilltu ar ôl etholiad cyffredinol siomedig.

Y rhai yn y ras i olynu Tom Watson yw Rosena Allin-Khan, Ian Murray, Angela Rayner, Dawn Butler, Richard Burgon a Khalid Mahmood.

Yr ymgeiswyr yn y ras am yr arweinyddiaeth yw Rebecca Long-Bailey, Syr Keir Starmer, Emily Thornberry, Lisa Nandy, Jess Phillips a Clive Lewis.

Y broses ethol

Fe fydd arweinydd newydd Llafur yn cael ei gyhoeddi mewn cynhadledd arbennig ar Ebrill 4, meddai’r blaid.

Cafodd yr amserlen ar gyfer y ras i benodi olynydd i Jeremy Corbyn ei gytuno mewn cyfarfod o Bwyllgor Cenedlaethol y blaid (NEC) ddydd Llun (Ionawr 6).

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid y byddai’r bleidlais bost o aelodau yn cael ei chynnal rhwng Chwefror 21 ac Ebrill 2.

Ychwanegodd eu bod yn awyddus i gymaint a phosib o’u haelodau a chefnogwyr gymryd rhan ac y bydd y bleidlais yn “un agored, teg a democrataidd.”

Fe fydd yn rhaid i’r ymgeiswyr sicrhau enwebiadau gan o leiaf 10% (22) o Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd y blaid cyn mynd ymlaen i ail ran y gystadleuaeth. 

Fe fydd yr un rheolau ac amserlen yn cael eu defnyddio yn y gystadleuaeth i ddewis olynydd i Tom Watson, y dirprwy arweinydd.