Mae grwp o wrthryfelwyr Islamaidd yn Somalia – yr al-Shabab – wedi hawlio cyfrifoldeb am ffrwydrad bom ar gerbyd yn y brifddinas, Mogadishu a laddodd 79 o bobol yr wythnos ddiwethaf.

Mae llefarydd y grwp, Sheikh Ali Mohamud Rage, wedi gwneud y cyhoeddiad mewn darllediad ar wefan.

Mae cysylltiad rhwng Al-Shabab ac al-Qaida, ac mae’n cynnal ffrwydradau cyson yn y brifddinas.