Mae gyrrwr wedi’i gyhuddo o ladd gyrwr tacsi a’i deithiwr, wedi gwrthdrawiad yn Lerpwl ar Chwefror 27 eleni..

Roedd David Sherwin, 51, a Michelle Jennings, 35, mewn tacsi a fu mewn damwain gyda char BMW yn Croxteth ddeng mis yn ol.

Roedd y gyrrwr tacsi yn mynd a’r fam i’w gwath tua 5.10yb pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Fe gafodd y ddau eu hanafu’n wael, cyn marw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 310 mae heddlu yn dweud fod gyrrwr y car BMW wedi’i gyhuddo a bod disgwyl iddo ymddangos gerbron llys yn ystod y mis nesaf.

Mae Ryan Howard o St Helens yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.