Cafodd 336 o brotestwyr eu harestio yn Hong Kong dros gyfnod y Nadolig, yn ôl heddlu’r wlad.
Roedd 92 o fenywod a phlant mor ifanc â 12 oed yn eu plith.
Cawson nhw i gyd eu harestio rhwng dydd Llun (Rhagfyr 23) a ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 26).
Bellach, mae bron i 7,000 o bobol wedi cael eu harestio ers i’r protestiadau ddechrau dros chwe mis yn ôl.
Mae’r awdurdodau’n eu cyhuddo o achosi anhrefn a cheisio codi ofn ar y cyhoedd.
Maen nhw’n galw am fwy o hawliau democrataidd yn dilyn cyfres ddadleuol o ddeddfau newydd.
Mae pryderon bellach y bydd rhagor o brotestiadau dros gyfnod y Flwyddyn Newydd, pan fo protestiadau fel arfer ar eu hanterth yn y wlad.