Mae canran siopau’r stryd fawr sydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr 30% yn is eleni na’r llynedd, yn ôl ffigurau newydd gan KPMG.Aeth 81 o gwmnïau i ddwylo’r gweinyddwyr hyd at fis Tachwedd, o’i gymharu â 116 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Er i lai o siopau fethu, mae’r cwmni’n dal i rybuddio am gyflwr y farchnad wrth i fwy o siopau fanteisio ar ddulliau ailstrwythuro er mwyn datrys eu problemau ariannol.

Mae Trefniadau Gwirfoddol Cwmnïau yn ddull o sefydlu cytundeb er mwyn trafod sefyllfaoedd ariannol â landlordiaid, a chafwyd mwy ohonyn nhw eleni wrth i rent a chyfraddau barhau’n uchel.

Er i nifer o siopau’r stryd fawr gyhoeddi eu bod nhw’n cau adrannau eleni, fe wnaeth llai o gwmnïau gau eu drysau’n gyfangwbl, yn ôl KPMG.

Aeth cwmnïau fel Thomas Cook, Mothercare a Debenhams i ddwylo’r gweinyddwyr eleni, wrth i filoedd o swyddi gael eu colli.

Ond roedd cwmni cardiau Clinton’s ymhlith y rhai aeth ati i ailstrwythuro, gydag Arcadia hefyd yn cau adrannau ac yn lleihau eu costau ar rai o’u safleoedd.