Mae o leiaf 15 o bobol wedi cael eu lladd ac o leiaf 49 arall wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad awyren yn Kazakhstan.

Roedd 98 o bobol ar fwrdd yr awyren.

Fe darodd ffens ac adeilad deulawr yn fuan ar ôl gadael y ddaear ym maes awyr Almaty.

Doedd dim tân, yn ôl tudalen Facebook y maes awyr.

Roedd oddeutu 1,000 o bobol yn gweithio ar y safle pan ddigwyddodd y ddamwain, a doedd y tywydd ddim yn ddrwg, er bod y tymheredd yn is na’r rhewbwynt.

Roedd yr awyren yn teithio i Nur-Sultan, prifddinas y wlad.

Mae teithiau awyr All Bek Air a Fokker-100 wedi’u gohirio wrth i ymchwiliad gael ei gynnal, wrth i ymchwilwyr ystyried y posibilrwydd fod nam technegol neu gamgymeriad dynol yn gyfrifol.

Cafodd awyrennau Kazakhstan eu gwahardd rhag cludo teithwyr yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn 2009 yn dilyn pryderon nad oedden nhw’n bodloni safonau diogelwch rhyngwladol.

Ond daeth y gwaharddiad i ben yn 2016.