Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi buddsoddiad o £8m i gwblhau parc iechyd gwerth £10m ym Mhontypridd.
Fe fydd Parc Iechyd Dewi Sant yn tynnu gwasanaethau iechyd ynghyd ar un safle, gan gynnwys meddygfa, deintyddfa, gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio cyffuriau, ynghyd â chyfleusterau radioleg.
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg £1.5m i gwblhau cam cynta’r prosiect yn 2016.
Mae disgwyl i’r cam olaf gael ei gwblhau erbyn haf 2021.
Cymru Iachach
“Dw i wrth fy modd o allu rhoi’r cyllid hwn ar gyfer creu parc iechyd a gofal cymdeithasol integredig ym Mhontypridd,” meddai Vaughan Gething.
“Yn unol â’r weledigaeth yn ein cynllun Cymru Iachach, bydd y buddsoddiad hwn yn tynnu ynghyd wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd o dan un to, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal yn nes at eu cartrefi.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein hysbytai a chanolfannau iechyd.
“Yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi y bydden ni’n gwneud buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £36 miliwn cyfalaf mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.”
Cryfhau cysylltiadau
“Rydyn ni mor falch o allu parhau â’r gwaith gwych ym Mharc Iechyd Dewi Sant,” meddai Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
“Mae’r cam datblygu cyntaf wedi ein galluogi i roi mwy o ofal i gleifion yn nes at eu cartrefi, gan weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector a awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal a chymorth gorau posibl.
“Bydd y gwaith parhaus hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ein holl wasanaethau er mwyn i’r arbenigwyr a thimau priodol allu gweld cleifion yn gyflym, a rhoi triniaeth i’r claf yn y lle gorau ac ar yr adeg iawn.”