Mae miloedd o bobol yn protestio yn Irac yn erbyn ymgeisydd i fod yn brif weinidog nesa’r wlad.
Maen nhw’n cyhuddo Qusay al-Suhail, sy’n gadael ei swydd yn weinidog addysg uwch, o fod â pherthynas rhy agos at Iran.
Mae gan y llywodraeth tan ddiwedd y dydd i enwi prif weinidog dros dro.
Mae o leiaf 400 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod protestiadau yn y wlad ers Hydref 1.
Fe wnaeth y prif weinidog Adil Abdul-Mahdi gamu o’r neilltu fis diwethaf ar ôl cyfnod o bwysau, wrth i Ali al-Sistani, un o brif ffigurau crefyddol y wlad dynnu ei gefnogaeth yn ôl.
Mae Ali al-Sistani yn pwyso ar y cyhoedd i dderbyn y prif weinidog newydd, ac mae cyfansoddiad y wlad yn gofyn bod enw yn cael ei gymeradwyo o fewn 15 niwrnod ar ôl ymddiswyddiad ei ragflaenydd.
Mae protestwyr yn erbyn y llywodraeth yn galw am etholiadau brys a diwygio etholiadol i ddatrys y sefyllfa.