Mae chwech o bobol wedi marw mewn bloc o fflatiau yn Las Vegas ar ôl bod yn defnyddio ffwrn fel gwresogydd, yn ôl adroddiadau.
Fe ddechreuodd y tân ar y llawr cyntaf, wrth i drigolion ddweud nad oedd gwres yn yr adeilad.
Bu’n rhaid i nifer o bobol neidio drwy ffenestri i ddianc.
Cafodd 13 o bobol eu hanafu, gyda nifer ohonyn nhw’n derbyn triniaeth am effeithiau mwg ond cafodd eraill driniaeth ar ôl torri esgyrn wrth neidio.
Roedd dynes feichiog yn eu plith, ond mae’r babi’n iach.
Dyma’r tân mwyaf dinistriol yn Las Vegas ers 1980, pan fu farw 87 o bobol mewn gwesty.