Mae Heddlu Llundain yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod “anghysondebau” yn nhreuliau’r cyn-aelod seneddol Llafur, Geoffrey Robinson.

Roedd ganddo bŵer atwrnai dros Brenda Price, 90, cyn iddi farw fis diwethaf.

Mae’n honni ei bod hi’n derbyn cyflog o £30,000 y flwyddyn i weithio 30 awr yr wythnos yn ei swyddfa etholaeth yng Ngogledd-orllewin Coventry hyd nes ei bod hi’n 89 oed.

Bu’n gweithio iddo ers 1997 ond dim ond fis Ionawr y llynedd y gwnaeth e hawlio trwy Ipsa – dri mis ar ôl iddo dderbyn pŵer atwrnai.

Fe wnaeth Geoffrey Robinson gamu o’r neilltu ym mis Tachwedd ar ôl 43 o flynyddoedd yn aelod seneddol.

Cafodd ei wahardd o San Steffan am dair wythnos yn 2001 ar ôl methu â datgelu anfoneb yn gofyn i Robert Maxwell am £200,000 yn 1990.

Roedd hefyd yn codi £1,000 ar drethdalwyr am rentu ystafell ar gyfer Brenda Price, yn ôl y Mail on Sunday.