Mae talaith fwya’ poblog Awstralia, New South Wales, wedi cyhoeddi stad o argyfwng, wrth i fwy na chant o danau gwyllt ymledu.
Mae tua 2,000 o ymladdwyr yn brwydro’r fflamau, ond mae eu hanner yn dal i fod allan o reolaeth.
Mae canol Sydney yn cofnodi tymheredd o 39 gradd Celsius (102 Fahrenheit) heddiw, tra bod ardaloedd cyfangos wedi cyrraedd 42 gradd.
Mae tua tair miliw hectar o dir wedi cael ei losgi yn ystod y misoedd diwethaf, tra bod chwech o bobol wedi marw a mwy na 800 o gartrefi wedi’u difetha’n llwyr.