Mae erlynwyr ym mhrifddinas Bolifia wedi cyhoeddi gwarant i arestio y cyn-arlywydd, Evo Morales, ar gyhueddiadau o frawychiaeth.

Y gweinidog materion cartref, Arturo Murillo, sydd wedi dwyn y cyhuddiadau yn erbyn Evo Morales, gan hnni ei fod wedi annog a hyrwyddo gwrthdaro treisgar a arweiniodd at farwolaethau 35 o bobol yn ddiweddar.

Mae Evo Morales wedi ffoi o’r wlad gan fynd i Mecsico cyn setlo yn yr Ariannin, lle mae bellach yn byw.

Mae’r cyn-arlywydd yn dweud y  bydd yn ymgyrchu eto i fod yn ymgeisydd am arlywyddiaeth Bolifia yn y misoedd nesaf.