Mae heddlu yng ngwlad Groeg wedi arestio gwraig 24 oed ar amheuaeth o ladd plentyn, wedi i fabi diwrnod oed gael ei adael mewn bun sbwriel.

Mae’r bachgen bach rhwng chwech a deg niwrnod oed, wedi cael ei gludo i ysbyty, lle mae’n cael gofal. Y gred yw ei fod mewn iechyd da.

Mae’r heddlu o’r farn mai mam y plentyn yw’r ddynes sydd wedi’i dwyn i’r ddalfa.

Mae maer Kalamata, lle canfuwyd y babi, wedi cadarnhau fod y bun sbwriel yn 10 troedfedd o ddyfnder a bod y plentyn “yn lwcus iawn yn ei anlwc”, gan fod y lori sbwriel leol ar ei ffordd ond yn hwyrach nag arfer.

Tra’r oedd y lori ar ei ffordd, fe glywodd gwraig a oedd yn bwydo cathod gerllaw, y babi’n crio yn y bun.

Fe neidiodd heddwas i mewn i’r bun a dod â’r babi allan yn ddiogel.