Mae trafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig wedi dod i ben yn Sbaen heb gytundeb, ar ôl i gynrychiolwyr o bron i 200 o wledydd oedi cyn gwneud penderfyniad.
Fe fu’r cynrychiolwyr yn trafod marchnadoedd carbon byd-eang ym Madrid.
Maen nhw’n galw am fwy o uchelgais wrth leihau nwyon tŷ gwydr a helpu gwledydd tlawd sy’n dioddef o effeithiau newid hinsawdd.
Ond fydd dim rhagor o drafod rhyngddyn nhw am newid hinsawdd hyd nes y byddan nhw’n cyfarfod yn Glasgow y flwyddyn nesaf.
Mae ymgyrchwyr yn cyhuddo gwledydd cyfoethoca’r byd o ddangos ychydig o ymrwymiad i ddatrys eu pryderon.