Mae un o’r rhai sy’n debygol o gymryd rhan yn y ras i olynu Jeremy Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur yn galw am symud pencadlys y blaid o Lundain.
Yn ôl Lisa Nandy, sy’n cynrychioli etholaeth Wigan, mae angen i’r blaid geisio ail-gysylltu â phleidleiswyr y tu allan i brifddinas Lloegr.
Mae’n dweud ei bod hi’n “ystyried yn ddifrifol” y posibilrwydd o gyflwyno’i henw ar gyfer yr arweinyddiaeth pan fydd Jeremy Corbyn yn camu o’r neilltu.
Ond mae angen i’r blaid wneud mwy i adfer ffydd trigolion trefi gogleddol Lloegr, meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.
“Dw i’n meddwl ei bod yn iawn dweud fod angen i ni gael ein gwreiddio’n ddyfnach yn y rhannau hynny o’r wlad,” meddai.
“Ond dw i’n meddwl bod hynny’n mynd y tu hwnt i’r arweinydd.
“Does dim rheswm o gwbl pam fod penderfyniadau wedi cael eu lleoli yng nghanol Llundain.
“Yn fy marn i, dylid symud pencadlys Llafur allan o Lundain, dylid rhoi’r grym i’n swyddfeydd rhanbarthol wneud penderfyniadau go iawn, a dylem symud cynadleddau ein plaid yn ôl i’r trefi yn ogystal â’r dinasoedd.”