Mae chwech o bobol wedi cael eu saethu’n farw, a thri wedi’u hanafu, mewn ysbyty yng Ngweriniaeth Tsiec.
Fe ddigwyddodd mewn ystafell aros yn Ostrava am oddeutu 7 o’r gloch fore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 10), wrth i’r dyn saethu at bennau pobol.
Mae lle i gredu bod y saethwr wedi lladd ei hun wrth i’r heddlu fynd at ei gar, ac fe fu farw ryw hanner awr yn ddiweddarach.
Pedwar dyn a dwy ddynes oedd y rhai fu farw.
Mae ymchwiliad ar y gweill, wrth i’r heddlu ddweud mai dyn 42 oed oedd yn gyfrifol a’i fod e wedi defnyddio dryll 9mm.
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn arall oedd yn dyst i’r digwyddiad, ond dydyn nhw ddim yn ei amau o unrhyw drosedd.