Mae Nasir Jamshaid, cricedwr rhyngwladol o Bacistan, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gynllwynio i lwgrwobrwyo cyd-chwaraewyr.
Mae’r cyhuddiad yn ymwneud â betio ar agweddau o gêm ugain pelawd.
Fe wnaeth y cricedwr 33 oed, sy’n byw yn Walsall ac wedi cynrychioli ei wlad 60 o weithiau, newid ei ble yn Llys y Goron Manceinion ar ôl dechrau’r achos.
Mae dau ddyn arall, y trefnydd 36 oed Yousef Anwar o Slough a Mohammed Ijaz, 34 oed o Sheffield, wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o gynllwynio i lwgrwobrwyo.
Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ym mis Chwefror.
Daw’r achos wrth i Bacistan baratoi i gynnal gemau prawf am y tro cyntaf ers pryderon diogelwch yn dilyn ymosodiad brawychol yn 2009.
Ond mae’r cyhuddiadau’n ymwneud ag ymgais i fetio yn y Bangladesh Premier League yn 2016 a betio yn y Pakistan Super League yn 2017.
Cynllwyn 2016
Daeth y cynllwyn i’r amlwg ar ôl i blismon cudd fynd at y rhwydwaith oedd yn trefnu’r troseddau ar ran criw betio.
Yn y ddau achos, roedd Nasir Jamshaid wedi cytuno i beidio â sgorio’r un rhediad oddi ar ddwy belen gyntaf pelawdau yn gyfnewid am swm o arian.
Fe wnaeth e drafod a chydlynu cynllwyn mewn gêm rhwng Islamabad United a Peshawar Zalmi yn y Pakistan Super League.
Cafodd yr awdurdodau wybod am y cynllwyn ymlaen llaw, ond fe wnaethon nhw roi caniatâd i’r gêm fynd yn ei blaen beth bynnag.
Fe wnaeth y tri diffynnydd gyfarfod yn Slough yn 2016, lle dywedodd Yousef Anwar fod ganddo fe chwe chwaraewr yn Bangladesh oedd yn barod i fod yn rhan o’r cynllwyn.
Mewn cyfarfod arall yn Slough, fe wnaeth Yousef Anwar ddatgelu enwau’r chwaraewyr, gan gynnwys Nasir Jamshaid a Sharjeel Khan, dau o chwaraewyr Ranjpur.
Roedd disgwyl i Nasir Jamshaid weithredu’r cynllwyn mewn gêm yn erbyn Dhaka Dynamites, ond fe wnaeth e dro pedol ar y funud olaf.
Wnaeth e ddim chwarae mewn gêm arall oedd wedi cael ei chlustnodi yn erbyn Barisal Bulls.
Cynllwyn 2017
Fis Ionawr 2017, fe wnaeth Yousef Anwar gyfarfod â’r swyddog cudd a Nasir Jamshaid mewn bwyty yn Birmingham.
Yno, cafodd Sharjeel Khan a Khalid Latif eu henwi fel dau chwaraewr oedd yn barod i gymryd rhan yn y cynllwyn yn y Pakistan Super League.
Cafodd taliadau eu trafod mewn cyfres o negeseuon testun rhwng Yousef Anwar a Nasir Jamshaid cyn ac ar ôl y gêm.
Fe wnaeth yr awdurdodau holi Sharjeel Khan a nifer o chwaraewyr eraill ar ôl y gêm, a chafodd ffonau symudol eu cymryd oddi arnyn nhw.
Cafwyd hyd i nifer o ddarnau o dystiolaeth mewn bag fod Khalid Latif yn rhan o’r cynllwyn.
Mae Nasir Jamshaid wedi’i wahardd o’r byd criced am ddeng mlynedd, tra bod Sharjeel Khan a Khalid Latif wedi’u gwahardd am bum mlynedd yr un.