Fe fydd enw enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd seremoni fawr yng ngwesty’r Celtic Manor heno (nos Fawrth, Rhagfyr 10).
Wyth sydd yn y ras ar gyfer y brif wobr a gafodd ei hennill y llynedd gan y seiclwr ac enillydd Tour de France, Geraint Thomas.
Yr wyth yw Hollie Arnold (gwaywffon para-athletaidd), Elinor Barker (seiclo), Menna Fitzpatrick (sgïo para-athletaidd), Sabrina Fortune (taflu pwysau para-athletaidd), Alun Wyn Jones (rygbi), Jade Jones (taekwondo), Hannah Mills (hwylio) a Lauren Price (paffio).
Cafodd y rhestr fer ei llunio gan banel o feirniaid – Nigel Walker, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Nathan Blake, Carolyn Hitt a Brian Davies.
Y rhestr fer
Hollie Arnold – enillodd hi ei phedwerydd teitl byd yn olynol yn Dubai, gan osod record byd ac Ewrop o 44.73m.
Elinor Barker – medalau aur ac arian ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, ac aur ac arian yng Nghwpan Trac y Byd.
Menna Fitzpatrick – Dwy fedal aur, dwy arian ac un efydd ym Mhencampwriaeth Sgïo Mynydd y Byd. Hi a’i thywysydd Jennifer Kehoe yw’r pâr cyntaf o wledydd Prydain i ddal teitlau Paralympaidd a’r Byd ar yr un pryd.
Sabrina Fortune – Enillydd Pencampwriaeth y Byd yn Dubai, gan dorri ei record bersonol o 13.70m gyda thafliad o 13.91m.
Alun Wyn Jones – capten tîm rygbi Cymru wrth ennill y Gamp Lawn, a Chwaraewr Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Flwyddyn. Cyrhaeddodd Cymru rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd o dan ei arweiniad. Fe sydd â record capiau Cymru, gyda 134.
Jade Jones – enillydd y fedal aur ym Mhencampwriaeth Taekwondo y Byd, ac enillydd y fedal aur ym Mhencampwriaeth Agored Sofia. Enillydd y fedal arian ym Mhencampwriaeth Agored Gwlad Belg.
Hannah Mills – enillodd hi a’i phartner Eilidh McIntyre fedal aur ym Mhencampwriaeth 470 y Byd ar gwrs Gemau Olympaidd Tokyo 2020. Enillydd medal arian mewn ras ragbrawf ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Lauren Price – y ferch gyntaf o Gymru i ennill teitl byd