Mae’r Undeb Ewropeaidd yn debygol o fethu eu targed lleihau nwy tŷ gwydr erbyn 2030.
Dywed yr Asiantaeth Amgylchedd Ewropeaidd fod mesurau presennol yn golygu y bydd yr Undeb Ewropeaidd wedi lleihau ei allyriadau carbon dioxide a llygryddion aer eraill o 30% erbyn 2030 o’i gymharu â lefelau 1990.
Ond roedd yr Undeb Ewropeaidd yn anelu am leihad o 40% erbyn 2030, ac mae rhai arweinwyr yn galw am y targed i gael ei godi 55%, gyda thaged tymor hir o ddod a therfyn i lygryddion newydd erbyn 2050.
“Mae tueddiadau diweddar yn dangos fod cynnydd mewn lleihau llygryddion, gwella effeithlonrwydd ynni a’r ganran o ynni adnewyddadwy wedi arafu,” meddai’r asiantaeth yn eu hadroddiad.
“Wrth edrych ymlaen, dyw’r raddfa bresennol o gynnydd ddim yn ddigon i gyrraedd targedau hinsawdd ac ynni 2030 a 2050”.
Cafodd yr adroddiad ei ryddhau wrth i swyddogion o bron i 200 o wledydd gyfarfod yn Madrid ac gyfer trafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.