Mae elusen griced yn dweud nad ydyn nhw’n cefnogi ymddygiad “lleiafrif” o’r gynulleidfa mewn cinio elusennol, ar ôl i’r digrifwr Nish Kumar orfod gadael y llwyfan cyn gorffen ei set.

Roedd yn perfformio’n rhad ac am ddim yn y digwyddiad yng ngwesty’r Grosvenor yn Llundain ddydd Llun (Rhagfyr 2), ond doedd ei set wleidyddol, asgell chwith ddim yn boblogaidd ymhlith y rhan fwyaf o bobol yn yr ystafell.

Roedd y gynulleidfa’n llafar yn ystod y set, ac roedd cryn dipyn o ymateb negyddol i’r deunydd am Brexit a’r hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd.

Wrth i’r ymateb fynd yn fwy tanllyd, fe fu’n rhaid i gyflwynydd y noson gamu i’r llwyfan, gan geisio annog Nish Kumar i adael.

Ond roedd y digrifwr yn mynnu gorffen ei set, wrth i’r ymateb iddo waethygu.

Yn y pen draw, fe adawodd e’r llwyfan wrth i’r cyflwynydd awgrymu dechrau’r raffl.

Mae Nish Kumar wedi bod yn rhannu ei sylwadau ffraeth am y digwyddiad ar ei dudalen Twitter, gan ddweud mai “un rhôl fara” gafodd ei thaflu a bod honno wedi ei fethu beth bynnag.

Ymateb

“Dydyn ni ddim, a fyddwn ni fyth, yn sefydliad gwleidyddol a dydyn ni ddim yn cefnogi safbwyntiau ein siaradwyr, eu safbwyntiau eu hunain, yn ein digwyddiadau,” meddai’r Lord’s Taverners mewn datganiad.

“Fodd bynnag, dydyn ni ddim ychwaith yn cefnogi ymateb lleiafrif o’r gynulleidfa yn y digwyddiad ddoe.

“Cafodd ymaddangosiad Nish Kumar ei drefnu mewn modd didwyll ac fe roddodd o’i amser yn rhad ac am ddim i gefnogi’r elusen a’n gwaith.

“Mae’n dilyn traddodiad hir o westeion comedi yn y digwyddiad.”