Mae beth bynnag 208 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod protestiadau Iran tros y cynnydd ym mhris petrol.

Fe ddaw y cyhoeddiad gan fudiad hawliau dynol Amnest Rhyngwladol, sy’n cadw cofnod o’r modd y mae llywodraeth y wlad wedi ymateb i’r gwrthdystiadau gyda’r gorchymyn i heddlu saethu at protestwyr.

Dyw’r awdurdodau yn y brifddias, Tehran, ddim eto wedi cyhoeddi eu hystadegau nhw am y digwyddiadau ar y strydoedd ers i bris tanwydd godi hyd at 50% oddi ar Dachwedd 15.