Mae teiffwn nerthol wedi achosi difrod i gartrefi a thorri cyflenwad trydan yn y Ffilipinas, wrth i filoedd o bobol ddianc am y mynyddoedd i ddiogelwch.

Fe ddaeth teiffwn Kammuri i dref Gubat yn nhalaith Sorsogon cyn ei anelu hi i gyfeiriad y gorllewin trwy Quezon ac achosi difrod a llifogydd ym mhentrefi’r tir isel.

Ar eu mwyaf nerthol, roedd gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 96mya, gyda hyrddiau o hyd  at 146mya.

Does yna ddim adroddiadau eto o unrhyw anafiadau na marwolaethau.