Mae tri o brotestwyr wedi cael eu saethu’n farw, ac mae 58 o bobol wedi’u hanafu, yn dilyn protestiadau yn Irac wrth i brif weinidog y wlad, Adel Abdul-Mahdi ymddiswyddo’n ffurfiol.

Bydd y senedd yn penderfynu a fyddan nhw’n derbyn ei ymddiswyddiad neu beidio.

Daeth cadrnhad ddydd Iau (Tachwedd 28) o’i fwriad i gamu o’r neilltu ar ôl i fwy na 40 o brotestwyr gael eu lladd gan luoedd diogelwch yn Baghdad a de’r wlad.

Mae un o brif glerigwyr y wlad hefyd wedi tynnu ei gefnogaeth i’r prif weinidog yn ôl.

Mae nifer o aelodau o’i lywodraeth hefyd wedi camu o’r neilltu yn sgil pryderon nad oes ganddyn nhw ddigon o rym bellach i lywodraethu ac i ddeddfu.

Mae o leiaf 400 o bobol wedi marw mewn cyfres o brotestiadau wrth i’r wlad wynebu cyfnod ansicr unwaith eto.

Mae pryderon am lygredd ariannol, diffyg gwasanaethau cyhoeddus a swyddi a diffyg ymddiriedaeth yn y system wleidyddol.

Mae’r protestwyr wedi bod yn meddiannu adeiladau, a’r lluoedd diogelwch yn ceisio’u tawelu mewn nifer o ddinasoedd ar draws y wlad.