Mae Irving Burgie, cyfansoddwr y gân ‘Day-O’ ac anthem genedlaethol Barbados, wedi marw’n 95 oed.
Daeth y gân ‘Day-O’ (The Banana Boat Song), a gafodd ei chyfansoddi yn 1952, yn glasur bedair blynedd yn ddiweddarach pan gafodd ei chanu gan Harry Belafonte.
Cafodd sampl o’r gân ei ddefnyddio ar y trac ‘6 Foot 7 Foot’ gan y rapiwr Lil’ Wayne, ac mae hi wedi cael ei chwarae gan ofodwyr.
Mae dros 100 miliwn o’i recordiau wedi cael eu gwerthu ar hyd y blynyddoedd, a Harry Belafonte wedi canu nifer fawr ohonyn nhw.
Yr albwm ‘Calypso’ gan Harry Belafonte oedd y record gyntaf i werthu dros filiwn o gopïau yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd un arall o’i ganeuon, ‘Jamaican Farewell’, ei chanu gan Harry Belafonte a Julio Iglesias ymhlith eraill.
Roedd hefyd yn gyd-awdur y gân ‘Mary’s Boy Child’, un o glasuron Boney M.
O dan yr enw Lord Burgess, roedd e’n ganwr gwerin yn Efrog Newydd a Chicago.