Mae’r chwilio am bobol yn dilyn daeargryn yn Albania wedi dod i ben, gyda 51 o bobol wedi marw.

Dydy’r awdurdodau ddim yn credu bod rhagor o gyrff o dan y rwbel.

Cafodd bron i 1,500 o adeiladau eu difrodi yn dilyn y digwyddiad yn y brifddinas Tirana ddydd Mawrth (Tachwedd 26). Cafodd oddeutu 900 eu difrodi yn Durres.

Roedd y daeargryn yn mesur 6.4 ar raddfa Richter, a chafodd oddeutu 2,000 o bobol eu hanafu.

Mae lle i gredu bod 4,000 o bobol wedi colli eu cartrefi, ac oddeutu 2,500 wedi cael lloches.

Mae addewid i godi cartrefi newydd y flwyddyn nesaf, ac fe fydd dioddefwyr yn derbyn iawndal.