Mae un o’r bobol a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol yn Llundain ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 29) wedi cael ei enwi.
Jack Merritt oedd cydlynydd cwrs adferiad i droseddwyr ar ran Prifysgol Caergrawnt, oedd yn cael ei gynnal yn y ddinas.
Roedd Usman Khan, 28, yn un o’r cyn-droseddwyr ar y cwrs ar ôl cael ei garcharu am droseddau brawychol yn 2012 ac fe gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Cafodd Jack Merritt ei ddisgrifio gan ei dad ar Twitter fel “ysbryd prydferth”.
Dydy dynes a gafodd ei lladd yn yr ymosodiad ddim wedi cael ei henwi hyd yn hyn.
Cafodd tri o bobol eraill eu hanafu.