Mae Heddlu’r Iseldiroedd yn chwilio am ddyn canol oed, tua 45-50 oed, ar ôl i dri o blant gael eu trywanu ar stryd brysur yn yr Hâg neithiwr (nos Wener, Tachwedd 29).
Dydy hi ddim yn glir eto ai ymosodiad brawychol oedd hwn, ond mae’r heddlu’n chwilio am o leiaf un person.
Mae’r plant bellach wedi cael mynd adref o’r ysbyty.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau siopa brig ar Dydd Gwener Gwallgof.