Mae dyn 31 oed wedi bod gerbron llys, wedi’i gyhuddo o lofruddio bachgen 11 mis oed yr oedd yn gofalu amdano pan fu farw.
Roedd mam Hunter McGleenon yn ymweld â’i mam-gu, sy’n ddifrifol wael, pan fu farw ei mab yng ngofal Ali Sharyar.
Yn ôl adroddiad patholegydd, nid damwain oedd ei farwolaeth, ar ôl iddo gael anafiadau difrifol i’w ben.
Clywodd y llys fod Ali Sharyar yn gofalu am y bachgen bach ar ei ben ei hun yn sir Armagh ddydd Mawrth (Tachwedd 26).
Fe ddywedodd wrth yr heddlu fod y bachgen wedi cwympo oddi ar y soffa ac wedi taro’i ben ar lawr concrid.
Yn ôl yr heddlu fe adawodd Ali Sharyar y bachgen ar ei ben ei hun tra ei fod e mewn casino.
Roedd e hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ddod i wledydd Prydain yn anghyfreithlon a bod â llun anweddus o blentyn yn ei feddiant – ond fydd e ddim bellach yn wynebu’r cyhuddiadau hynny.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar Ragfyr 18, pan fydd yn mynd gerbron y llys trwy gyswllt fideo.