Mae pump o bobol wedi marw, a thri arall wedi’u hanafu, wedi i dân gynnau ar 14eg llawr bloc o fflatiau yn yr Unol Daleithiau.

Mae achos y tân yn destun ymchwiliad, ond y gred ydi mai damwain oedd yn gyfrifol am y fflamau yn Cedar High Apartments, Minneapolis.

Mae’r adeilad yn y rhan o Minneapolis sy’n cael ei adnabod fel ‘Mogadishu Fach’, gan fod cymainnt o bobol o dras Somali wedi setlo yno.

Fe seiniodd y larwm, ac roedd fflamau 15 troedfedd o uchel i’w gweld yn llyfu eu ffordd allan o ffenestri’r 14eg llawr.