Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi wfftio’r ymdrechion i’w uchelgyhuddo.

Fe fu’n annerch torf ym Miami yn Fflorida ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 26), gan ladd ar yr ymchwiliad a allai niweidio’i obeithion o gael ei ailethol yn arlywydd y flwyddyn nesaf.

Dyma rali cynta’r arlywydd ers iddo symud o Efrog Newydd i Palm Beach.

Mae pwyllgor bellach yn ystyried canlyniadau ymchwiliad ar ôl cyfweld â phobol ynghylch ymdrechion Donald Trump i bwyso ar swyddogion yr Wcráin i ymchwilio i’w wrthwynebwyr gwleidyddol.

Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal cyn bwrw ymlaen yn ffurfiol â’r broses o uchelgyhuddo.

Mae Donald Trump yn cyhuddo Democratiaid o “geisio hollti ein cenedl” gyda’r ymchwiliadau.

“Yn gyntaf daeth y twyll am Rwsia a nawr mae’r un ffyliaid yn gwrthio’r uchelgyhuddo gwallgof,” meddai.

Mae’n mynnu nad yw e wedi gwneud unrhyw beth o’i le, a bod ei wrthwynebwyr “yn gwybod na allan nhw ennill yr etholiad nesaf”.

Mae’n dweud bod ei gefnogwyr yntau, o’u cymharu â’r Democratiaid, “yn fwy clyfar, yn fwy golygus, yn fwy siarp”.

Yn ystod ei ymweliad, fe wnaeth oddeutu 200 o brotestwyr ymgynnull a llenwi balwn ‘Baby Trump’ wrth i rai floeddio bod angen ei gloi i fyny.